Gutenberg

Disgrifiad

Enw cod yw “Gutenberg” ar gyfer patrwm cwbl newydd ar gyfer creu gyda WordPress, sy’n anelu at chwyldroi’r profiad cyhoeddi cyfan cymaint ag y gwnaeth Johannes Gutenberg y gair printiedig. Mae’r project yn dilyn proses pedwar cam a fydd yn cyffwrdd â darnau mawr o WordPress – Golygu, Addasu, Cydweithio ac Amlieithog.

Yn dilyn cyflwyno golygu bloc cofnod ym mis Rhagfyr 2018, cyflwynodd Gutenberg olygu gwefan lawn (FSE) yn ddiweddarach yn 2021, a ddaeth gyda WordPress 5.9 yn gynnar yn 2022 .

Beth Mae Gutenberg yn ei Wneud?

Gutenberg yw “golygydd bloc” WordPress, ac mae’n cyflwyno dull modiwlaidd o addasu eich gwefan gyfan. Golygu blociau cynnwys unigol ar gofnodion neu dudalennau. Ychwanegwch ac addasu teclynnau. Hyd yn oed dyluniwch benawdau, troedynnau a llywio eich gwefan gyda chefnogaeth lawn i olygu’r wefan.

Mae pob darn o gynnwys yn y golygydd, o baragraff i oriel ddelweddau i bennawd, yn floc ei hun. Ac yn union fel blociau corfforol, mae modd ychwanegu, trefnu ac aildrefnu blociau WordPress, gan ganiatáu i ddefnyddwyr greu cynnwys cyfoethog o gyfryngau a chynlluniau gwefannau mewn ffordd weledol reddfol – a heb atebion fel codau byr neu HTML a PHP arferol.

Rydyn ni bob amser yn gweithio’n galed yn mireinio’r profiad, yn creu mwy a gwell blociau, ac yn gosod y sylfaen ar gyfer cyfnodau gwaith y dyfodol. Mae pob datganiad WordPress yn cynnwys nodweddion sefydlog o ategyn Gutenberg, felly nid oes angen i chi osod yr ategyn i elwa o’r gwaith sy’n cael ei wneud yma.

Mynediad Cynnar

A ydych chi’n fabwysiadwr cynnar â thechnolegol ddeallus sy’n hoffi profi nodweddion blaengar a nodweddion arbrofol, ac nad yw’n ofni tincian â nodweddion sy’n dal i gael eu datblygu? Os felly, mae’r ategyn beta hwn yn rhoi mynediad i chi i’r nodweddion Gutenberg diweddaraf ar gyfer golygu bloc a gwefan lawn, yn ogystal â chipolwg ar yr hyn sydd i ddod.

Mae Angen Cyfranwyr

Ar gyfer yr anturus a’r dechnoleg ddeallus, mae ategyn Gutenberg yn rhoi’r set nodwedd ddiweddaraf a gorau i chi, fel y gallwch chi ymuno â ni i brofi a datblygu nodweddion ymyl gwaedu, chwarae o gwmpas gyda blociau, ac efallai cael eich ysbrydoli i gyfrannu neu adeiladu’ch blociau eich hun. .

Darganfod Rhagor

  • Dogfennaeth Defnyddiwr: Darllenwch WordPress Editor documentation am dogfennaeth fanwl ar ddefnyddio’r golygydd fel awdur yn creu cofnodion, tudalennau a rhagor.

  • Dogfennaeth Datblygwr: Darllennwch y Developer Documentation am sesiynau tiwtorial a dogfennaeth helaeth, a chyfeiriadau API ar sut i estyn y golygydd.

  • Cyfranwyr: Mae Gutenberg yn broject cod agored ac mae’n croesawu pawb sy’n cyfrannu o god i ddyluniad, o ddogfennaeth i frysbennu. Darllenwch y Llawlyfr Cyfrannwr am yr holl fanylion ar sut y gallwch chi helpu.

Mae modd canfod man datblygu project Gutenberg yn https://github.com/wordpress/gutenberg. Mae trafodaethau am y prosiect ar y Make Core Blog ac yn y sianel #core-editor yn Slack, gan gynnwys cyfarfodydd wythnosol. Os nad oes gennych gyfrif Slack, gallwch gofrestru yma .

Cwestiynau Cyffredin

Sut fedra i anfon adborth neu gael help gyda gwall?

Y lle gorau i adrodd ar wallau, awgrymiadau nodwedd, neu unrhyw adborth arall yw tudalen materion Gutenberg GitHub. Cyn cyflwyno mater newydd, chwiliwch y materion presennol i weld os oes unrhyw un arall wedi adrodd yr un adborth.

Er ein bod yn ceisio brysbennu materion sy’n cael eu hadrodd yma ar y fforwm ategyn, fe gewch ymateb cyflymach (a lleihau dyblygu ymdrech) trwy gadw adborth yn ganolog i GitHub.

Lle ga i adrodd ar wallau diogelwch?

Mae tîm Gutenberg a chymuned WordPress yn cymryd gwallau diogelwch o ddifrif. Rydym yn gwerthfawrogi eich ymdrechion i ddatgelu eich canfyddiadau’n gyfrifol a byddwn yn gwneud pob ymdrech i gydnabod eich cyfraniadau.

I adrodd ar fater diogelwch, ewch i raglen WordPress HackerOne.

Oes rhaid i mi ddefnyddio’r ategyn Gutenberg i gael mynediad at y nodweddion hyn?

Ddim o reidrwydd. Mae pob fersiwn o WordPress ar ôl 5.0 wedi cynnwys nodweddion o ategyn Gutenberg, sydd, gyda’i gilydd yn cael eu galw yn Golygydd WordPress. Mae’n debyg eich bod eisoes yn elwa o’r nodweddion sefydlog!

Ond os ydych chi eisiau nodweddion beta blaengar, gan gynnwys mwy o eitemau arbrofol, bydd angen i chi ddefnyddio’r ategyn. Gallwch ddarllen rhagor yma i helpu i benderfynu a yw’r ategyn yn iawn i chi.

Ble fedra i weld pa fersiynau ategyn Gutenberg sy’n cael eu cynnwys ym mhob ryddhad WordPress?

Darllenwch y ddogfen Versions in WordPress i weld tabl yn dangos pa fersiwn o ategyn Gutenberg sydd wedi’i chynnwys ym mhob ryddhad WordPress.

Beth sydd nesaf i’r project?

Pedwar cam y project yw Golygu, Cyfaddasu, Cydweithio ac Amlieithog. Gallwch glywed mwy am y project a’r cyfnodau gan Matt yn ei sgyrsiau State of the Word ar gyfer 2020, 2019, a 2018. Hefyd, gallwch ddilyn y nodiadau rhyddhau pythefnosol a diweddariadau cynllun project misol ar flog Make WordPress Core i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Lle ga i ddarllen rhagor am Gutenberg?

Adolygiadau

Medi 27, 2024
Gutenberg is a brilliant little tool for creating content all over the WP portfolio. In the Learn WP forum you see her in her simplest form, and else where she shows her power. I have never (4-5 years) had content posted cause any issue as it get’s tag’ed into html and other code. That means I have never had to fix anything in the code viewer, though it’s there for me. Trust me when I say: All the hate around Gutenberg comes old WP’ers struggling with comfort zone and what they are used to. So please ignore any review under ****. It’s just frustation. Gutenberg looks the part. Clean and minimalistic. Neat icons and easy access to any and all blocks. Gutenberg screams Apple while TinyMCE screams DOS. Seriously!!! A consistent implementation of Gutenberg across any and all WP is given. I cannot wait for it implemented in all plugins, but ofcourse the haters will do what they can to stall this. I am happy to see Woo almost being the first-mover and I cherish the day it comes out of their (Woo) beta state. Let’s see it happen and focus on the beauty of WP. Anyone below 60 years and new to WP will intuitively navigate Gutenberg within 10 minutes. And the best part. It matches anything…
Medi 19, 2024 1 reply
Instead of WordPress becoming a modern cms, integrating the best community plugins, modernizing the database, and fatcilitating headless solutions, we got this: ‘\n<div class=”wp-block-columns has-3-columns”>\n\n\n\n</div>\n’,
Medi 11, 2024 3 replies
Why this Fail of a plugin, is still forced upon everyone with a fresh WordPress instance, is beyond reason.This plugin was terrible when it showed up after it was patched, and it is still terrible today. It should be dead and buried.Disable Gutenberg plugin will, however, probably still be standing as a monument to this joke.
Read all 3,799 reviews

Contributors & Developers

“Gutenberg” is open source software. The following people have contributed to this plugin.

Cyfranwyr

“Gutenberg” has been translated into 55 locales. Thank you to the translators for their contributions.

Translate “Gutenberg” into your language.

Interested in development?

Browse the code, check out the SVN repository, or subscribe to the development log by RSS.

Cofnod Newid

I ddarllen y cofnod newid am y Gutenberg diweddaraf, ewch i’r dudalen ryddhau .